Rydyn ni'n newid y ffordd rydych yn mewngofnodi ar RPW Ar-lein
Beth yw One Login GOV.UK?
One Login GOV.UK fydd y ffordd newydd i chi fewngofnodi i holl wasanaethau'r llywodraeth ganol. Gydag One Login GOV.UK, byddwch yn gallu cael at yr holl wasanaethau rydych chi'n eu defnyddio, i gyd mewn un lle, gyda'r un cyfeiriad e-bost a chyfrinair.
Beth fydd yn newid i RPW Ar-lein?
Byddwch yn gallu defnyddio'ch cyfrif One Login GOV.UK i weld yr holl fusnesau rydych yn gweithredu ar eu rhan. Ar ôl cofrestru neu ymuno â busnes ar-lein, cliciwch ar y busnes rydych am ei weld wrth fewngofnodi.
Sut mae dechrau defnyddio One Login GOV.UK gydag RPW Ar-lein?
Yn gyntaf, cofrestrwch am gyfrif gyda One Login GOV.UK. Yna rhowch y cyfeiriad e-bost y gwnaethoch chi ei ddefnyddio i greu'ch cyfrif One Login GOV.UK i weinyddwr grŵp Porth y Llywodraeth eich cyfrif RPW Ar-lein.
Gweinyddwr y grŵp yw'r person sy'n ychwanegu aelodau at dîm ar Borth y Llywodraeth ac yn eu rheoli, hynny yw efallai prif gyswllt y busnes neu'r person sy'n rheoli'ch cyfrif RPW Ar-lein. Os mai chi yw'r unig un sy'n gwybod eich ID ar Borth y Llywodraeth, chi fwy na thebyg yw'r gweinyddwr.
Gall gweinyddwr y grŵp wahodd ei hun i'r cyfrif RPW Ar-lein ac yna defnyddio One Login GOV.UK i fewngofnodi. Gall wahodd pobl eraill i ddefnyddio'r cyfrif hefyd, gan ddefnyddio cyfeiriad e-bost ei gyfrif One Login GOV.UK.
Sut mae cysylltu i ofyn cwestiwn?
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am y newid i One Login GOV.UK, Cysylltwch â ni