[Welsh] Skip to main content [Welsh] [Welsh] Skip to footer [Welsh]

Rydyn ni'n newid y ffordd rydych yn mewngofnodi ar RPW Ar-lein


Mae manylion mewngofnodi RPW Ar-lein yn newid er mwyn defnyddio One Login GOV.UK. O fis Ionawr 2026, ni fyddwch yn gallu mewngofnodi ar RPW Ar-lein trwy Borth y Llywodraeth.

Bydd angen ichi barhau i ddefnyddio Porth y Llywodraeth os:

  • nad ydych wedi mynd i'ch cyfrif (CRN) trwy One Login GOV.UK o'r blaen ac nad ydych wedi cael gwahoddiad i symud i One Login GOV.UK
  • mae gennych wahoddiad i symud eich cyfrif (CRN) i One Login GOV.UK ond nid ydych yn dymuno gwneud hynny heddiw
  • ydych yn weinyddwr Porth y Llywodraeth a'ch bod am symud eich CRN i One Login GOV.UK heddiw

Bydd gofyn ichi ddefnyddio One Login GOV.UK os:

  • ydych wedi cael gwahoddiad i ymuno â busnes ar-lein
  • ydych wedi defnyddio One Login GOV.UK i weld y CRN o'r blaen
  • nad ydych wedi defnyddio RPW Ar-lein o'r blaen

Dewiswch ffordd i fewngofnodi



Beth yw One Login GOV.UK?


One Login GOV.UK fydd y ffordd newydd i chi fewngofnodi i holl wasanaethau'r llywodraeth ganol. Gydag One Login GOV.UK, byddwch yn gallu cael at yr holl wasanaethau rydych chi'n eu defnyddio, i gyd mewn un lle, gyda'r un cyfeiriad e-bost a chyfrinair.

Beth fydd yn newid i RPW Ar-lein?


Byddwch yn gallu defnyddio'ch cyfrif One Login GOV.UK i weld yr holl fusnesau rydych yn gweithredu ar eu rhan. Ar ôl cofrestru neu ymuno â busnes ar-lein, cliciwch ar y busnes rydych am ei weld wrth fewngofnodi.

Sut mae dechrau defnyddio One Login GOV.UK gydag RPW Ar-lein?


Yn gyntaf, cofrestrwch am gyfrif gyda One Login GOV.UK. Yna rhowch y cyfeiriad e-bost y gwnaethoch chi ei ddefnyddio i greu'ch cyfrif One Login GOV.UK i weinyddwr grŵp Porth y Llywodraeth eich cyfrif RPW Ar-lein.

Gweinyddwr y grŵp yw'r person sy'n ychwanegu aelodau at dîm ar Borth y Llywodraeth ac yn eu rheoli, hynny yw efallai prif gyswllt y busnes neu'r person sy'n rheoli'ch cyfrif RPW Ar-lein. Os mai chi yw'r unig un sy'n gwybod eich ID ar Borth y Llywodraeth, chi fwy na thebyg yw'r gweinyddwr.

Gall gweinyddwr y grŵp wahodd ei hun i'r cyfrif RPW Ar-lein ac yna defnyddio One Login GOV.UK i fewngofnodi. Gall wahodd pobl eraill i ddefnyddio'r cyfrif hefyd, gan ddefnyddio cyfeiriad e-bost ei gyfrif One Login GOV.UK.

Sut mae cysylltu i ofyn cwestiwn?


Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am y newid i One Login GOV.UK, Cysylltwch â ni